“Paid byth â trio dy ora, cofia hynna, ella neith o safio dy fywyd di.”
Dyma stori gwir (wel, gwir-ish) am Huw – neu Huw Fyw fel mae pawb yn ei alw fo, ers i’r Huw arall yn y pentra’ farw yn yr Ail Ryfel Byd.
Dydi Huw Fyw ddim yn coelio mewn ffawd. A dydi o ddim yn coelio mewn gwenu chwaith… na gwastraff nac unrhyw beth sy’n gofyn iddo godi o’i gadair. Ond ar ôl tro lwcus, mae Huw yn cychwyn ar antur fythgofiadwy o’i bentra’ bach i ganol Llundain; antur fydd yn newid cyfeiriad ei fywyd am byth ac yn dysgu iddo sut i fyw at heddiw, heb anghofio’r gorffennol.
80 mlynedd ers i’r Ail Ryfel Byd ddod i ben, dyma ddrama lwyfan newydd gan Tudur Owen am obaith, diogi a sut mae ’neud 4 paned gydag un bag te! Yn ei ddrama gyntaf i’r llwyfan, bydd Tudur hefyd yn serennu fel Huw Fyw, gyda chyfarwyddo gan Steffan Donnelly.
Canllaw Oed: 11+
Yn cynnwys iaith gref, themâu aeddfed a chyfeiriadau at ryfel, euogrwydd goroesi ac Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD).
Tocynnau
Pris - £17 | £16
Bydd capsiynau dwyieithog caeedig ar gael ym mhob perfformiad, trwy ap Sibrwd
Dewch i fwynhau cystadleuaeth gorawl ysgafn hwyliog a bywiog mewn noson elusennol yn y Moody Cow, Llwyncelyn!
Dewch yn llu
am hwyl a sbri,
Canu, Cystadlu,
Dewch, da chi!
Tocynnau
Ymunwch â Byrti a Bwbw wrth iddyn nhw sgleinio’r lleuad! Ond pam mae Pwnîc yn dweud wrth y ddau am beidio gwneud hynny? O diar, bydd y byd i gyd yn dywyll! Yna, mae rhywbeth hudolus iawn yn digwydd….
Addas i blant 3-7 oed a’u teuluoedd
Mae ‘Sgleinio’r Lleuad’ yn gynhyrchiad Cymraeg wedi ei anelu at blant 3-7 oed, ond mae hefyd yn addas iawn ar gyfer siaradwyr Cymraeg newydd o bob oedran. Byddwn ni’n creu pecyn geirfa a crynodeb Saesneg, yn agosach i’r amser, er mwyn cynorthwyo profiad siaradwyr Cymraeg newydd, ac annog grwpiau amrywiol i ddod i brofi theatr Gymraeg.
Mae Cwmni Theatr Arad Goch yn adnabyddus am ei ddramâu i blant, ac mae’r cynyrchiad yma o Sgleinio’r Lleuad yn her hollol newydd.
Cysylltwch â'r Theatr ar gyfer archebion ysgolion/meithrinfeydd a grŵp os gwelwch yn dda.
Tocynnau
Pris - £10 | £7
Cynhyrchiad Carys Eleri wedi'i gefnogi gan Ganolfan Mileniwm Cymru
Paratowch ar gyfer Tonguing, sioe newydd traws-genre sy'n archwilio cysylltiadau a chyfathrebu, wrth i Carys Eleri ddod a'i brand craff o gomedi'n fyw trwy wyddoniaeth a chaneuon.
Daw’r archwiliad difyr yma o fecaneg yr ymennydd ac ymchwil wyddonol fanwl yn fyw trwy straeon gwallgo, animeiddio hynod a ffrwydrad eclectig o ganeuon sy’n amrywio o electronica i ganeuon ffliwt canoloesol gydag ychydig bach o fetel trwm ar hyd y ffordd, mae Tonguing yn archwilio sut mae cysylltiadau dynol yn llywio popeth, o’n hymennydd i’n cyrff, a sut y gall dibyniaeth gynyddol ar y sffêr ddigidol ein hamddifadu rhag cysylltiadau dynol go iawn.
Galwad yw hi i symud y tu hwnt i’r platfformau ar lein sydd wedi ein hynysu wrth ein gilydd, a hybu’r grefft o sgwrsio, wyneb yn wyneb, gan edrych ym myw llygaid ein gilydd – ‘IRL’
Gyda cyngor Dr Simon Fisher (‘Beyonce niwrowyddoniaeth’ yng ngeiriau Carys), a’r athro Dean Burnett (awdur The Happy Brain), mae Carys – a chreodd Lovecraft (Not the Sex Shop in Cardiff - yn dod â Tonguing, sioe newydd sbon i gynulleidfaoedd, ac yn eu harwain ar siwrnai ddigri trwy ryfeddodau hynod a hyfryd y meddwl dynol.
Trafodwch. Tafodwch.
Canllaw Oed: 16+
Tocynnau
Pris - £15 | £14 | £12
Dyma Fi: hogan pentra' efo gwallt spikes a BMX, yn ffansio genod ond cogio bod yn strêt; yn disgyn mewn cariad efo dynas ar cae rygbi ond cheith hi’m deud wrth neb bod hi’n disgyn mewn i'w gwely; mynd i Llundan i fod yn lesbian mewn byd lesbian yn caru bob lesbian eiliad... nes bod hi ddim.
Wrth i Fi fynd â ni ar daith o’i bywyd carwriaethol - y crushes cyfrinachol, y caru lletchwith a’r tor-calon blêr - mae'n dod i ddeall cymhlethdodau byw'n driw i'w hun wrth dyfu fyny fel tomboy yn y nawdegau.
Yn dilyn ymateb gwefreiddiol i’r perfformiadau cychwynnol yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024, bydd Brên. Calon. Fi gan Bethan Marlow yn mynd ar daith fel rhan o ddathliadau mis Pride ym mis Mehefin. Y cyntaf o’i fath, dyma fonolog doniol a dirdynnol am chwant a chariad lesbiaidd, wedi’i gyfarwyddo gan Rhiannon Mair ac yn serennu Lowri Morgan.
Datblygwyd yn wreiddiol gyda chefnogaeth gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru a pherfformiwyd yn wreiddiol ym Mhontypridd 2024.
Canllaw Oed: 16+
Yn cynnwys goleuadau'n fflachio, synau uchel, iaith gref, themâu aeddfed a chyfeiriadau at drais rhywiol
Bydd capsiynau dwyieithog caeedig ar gael ym mhob perfformiad, trwy ap Sibrwd
Tocynnau
Yma yn Theatr Felinfach mae ein awditoriwm yn eistedd 242 wedi ei osod ar ffurf oledd.
Mae hyn yn cynnwys pedwar gofod hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn.
Oriau'r Swyddfa Docynnau:
Llun i Gwener
9:30yb - 4:30yp
01570 470697
Mae gwasanaeth peiriant ateb ac e-bost ar gael tu allan i oriau agor.
Gallwch hefyd archebu tocynnau ar-lein 7 diwrnod yr wythnos.
theatrfelinfach@ceredigion.gov.uk