Tocynnau
Price - £10 | £6
Y Cast: Morfudd Hughes, Owen Arwyn a Judith Humphreys
Mae’n 1955, oes yr NHS newydd, ond mae’r wyrcws yn sefyll o hyd, a rhai o’i drigolion yn garcharorion tlodi ers hanner canrif a mwy.
Daw dwy fenyw o gefndiroedd hollol wahanol wyneb yn wyneb, y naill yn cludo traddodiad a’r llall yn gobeithio diogelu’r traddodiad hwnnw. Ond wrth ganu, recordio a thrafod caneuon gwerin, daw hanes cudd i’r golwg.
Tocynnau
Pris - £13 | £12
Mae Academi Dawns a Theatr Sally Saunders yn falch o gyflwyno 'Centre Stage'. Mi fydd y myfyrwyr yn arddangos eu talentau ar draws y sbectrwm dawns o bale i tap, jazz a medli sioeau cerdd.
Ymunwch â ni am wledd o ddawns a fydd yn syfrdanu a swyno cynulleidfaoedd o bob oed.
Tocynnau
Sioe un-person llawn pync-gerddorol feiddgar, llawen am greu teulu cwiar ar eich telerau eich hun, wedi'i hysgrifennu a'i pherfformio gan Leila Navabi y digrifwr, awdur a chyfansoddwr gwobredig
Canllaw Oed: 16+
Tocynnau
Pris - £15 | £14
Y Consortiwm Cymraeg yn Cyflwyno'r Gomedi
Addysgu Rita gan Willy Russell, wedi’I gyfieithu gan Gwawr Loader
Y ddrama a enillodd Wobr Olivier, yn y Gymraeg am y tro cyntaf erioed.
Pan mae Rita, merch briod sy’n trin gwallt, yn cofrestru ar gwrs prifysgol er mwyn ehangu ei gorwelion, does ganddi ddim syniad beth fydd diwedd y daith.
Dyw ei thiwtor sinigaidd, Frank, y bardd rhwystredig, yr academydd disglair a'r yfwr ymroddedig, ddim yn frwdfrydig iawn i gymryd Rita dan ei adain. Ond daw'r ddau i sylweddoli cymaint sydd ganddyn nhw i ddysgu oddi wrth ei gilydd.
Bydd y gomedi ddoniol a chynnes hon yn swyno cynulleidfaoedd ledled Cymru.
"Wrth wraidd y ddrama mae bod dynol sy'n awchu am rywbeth gwell, ac mae hynny'n brofiad sylfaenol a chyntefig.”
14+
Iaith gref a themâu aeddfed
Tocynnau
Pris - £16 | £15 | £14
Gan Mererid Hopwood. Cerddoriaeth gan Seiriol Davies
Mae pawb yn gyffro i gyd ar ddiwrnod cynta’r tymor yn Ysgol Gwaelod y Garn. Ond mae’r plant ar fin cael newyddion drwg... mae’r ysgol yn mynd i GAU!
Wrth i Alfred, Elen a’u ffrindiau geisio meddwl am ffordd o achub eu hysgol fach, mae athrawes newydd a braidd yn llym yr olwg yn cyrraedd: Miss Prydderch. Ond cyn hir, daw hi’n amlwg ei bod hi’n athrawes anghyffredin o arbennig. Os gall unrhyw un helpu’r plant i achub yr ysgol, Miss Prydderch yw’r un!
Mewn sioe sy’n llawn dop o ddireidi, dychymyg a cherddoriaeth, cewch deithio gyda dosbarth Miss Prydderch ar antur fythgofiadwy lle mae’r ffrindiau’n trechu eu hofnau a darganfod pwysigrwydd codi eu lleisiau.
Dyma sioe gerdd hudolus newydd sy’n dod ag anturiaethau a chymeriadau’r gyfres lyfrau annwyl i’r llwyfan, gyda sgript newydd sbon gan Mererid Hopwood, a cherddoriaeth fywiog gan Seiriol Davies.
Whwsh! Bant â ni!
Tocynnau
Pris - £10 | £8
Ar Log ar daith yn dathlu eu penblwydd yn 50
Gwesteion Arbennig: Lowri Evans a Lee Mason
Tocynnau
Yma yn Theatr Felinfach mae ein awditoriwm yn eistedd 242 wedi ei osod ar ffurf oledd.
Mae hyn yn cynnwys pedwar gofod hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn.
Oriau'r Swyddfa Docynnau:
Llun i Gwener
9:30yb - 4:30yp
01570 470697
Mae gwasanaeth peiriant ateb ac e-bost ar gael tu allan i oriau agor.
Gallwch hefyd archebu tocynnau ar-lein 7 diwrnod yr wythnos.
theatrfelinfach@ceredigion.gov.uk