Mae Theatr Felinfach yn creu cyfleoedd a rhoi mynediad a llwybr gydol-oes i’r celfyddydau a diwylliant Cymru a’r byd trwy raglenni creadigol, cyfranogol a rhaglen o gynyrchiadau proffesiynol.
Ein nod yw:
- Arwain a chefnogi theatr gymunedol a chelfyddydau cyfranogol yng Ngheredigion ac yn ehangach
- Rhoi mynediad i’r celfyddydau mewn ardal wledig, i gyfranogwyr a defnyddwyr.
- Defnyddio’r celfyddydau i ddathlu diwylliant, hybu’r ymdeimlad o berthyn a rhoi cyd-destun cymdeithasol a diwylliannol i’r iaith Gymraeg
- Datblygu sgiliau ac annog rhagoriaeth – creadigol, artistig, cymdeithasol a dwyieithrwydd
- Addysgu trwy’r celfyddydau – datblygu hyder cymunedol i gwestiynu, i herio, i annog, i rannu, dehongli a dathlu
- Cynnig gweithgareddau sy’n taclo unigedd gwledig a datblygu ymdeimlad o berthyn
- Rhoi profiadau artistig rhagorol i gyfranogwyr a chynulleidfa
- Dod â lliw a llawenydd ychwanegol i fywyd cymdeithasol unigolion a chymunedau Ry’n ni’n gweithio mewn dau prif faes:
1. Cymryd rhan yn y diwylliant a’r celfyddydau (rhaglen gyfranogol sy’n defnyddio Drama, Dawns, Theatr, Cyfryngau)
2. Profi’r celfyddydau (rhaglen o berfformiadau proffesiynol ac eraill)
Trwy’r ddau brif faes gwaith, rydym yn cynnig rhaglenni amrywiol a drws-agored i rai bach 0-3 oed; i blant 4-11 oed, i bobl ifanc 11-25 oed, i oedolion 26-55 oed a phobl hŷn 55-90+ oed. Rydym yn gweithio gydag unigolion, grwpiau, ysgolion a sefydliadau addysgol eraill a mudiadau amrywiol.
Mae’r ddau faes gwaith yn:
- cyfrannu’n helaeth at gynyddu hunan-hyder a chydlyniad cymdeithasol cymunedau.
- cyfrannu at gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg a dwyieithrwydd mewn cymunedau.
- datblygu sgiliau trosglwyddadwy ac yn cynyddu sgiliau deallusol, creadigol a chymdeithasol, yn arbennig ymhlith plant a phobl ifanc.
- meithrin cyfalaf cymdeithasol trwy ddatblygu perthynas bobl â’i gilydd a’u cymunedau.
- galluogi cymunedau i ddeall a dathlu eu treftadaeth ddiwylliannol.
- gallu arwain at lwybrau addysg bellach, addysg uwch a gwaith