Ail-lansiwyd y pecyn aelodaeth yn ddiweddar a'r bwriad yw cynyddu niferoedd.
Dyma rhai rhesymau dros ddod yn Gyfaill:
- Cyfle i chi wneud eich rhan dros yr iaith ac arbed ychydig o arian ar yr un pryd!
- Y Cyfeillion sy'n cynrychioli ein gwirfoddolwyr: yn gyfranogwyr, yn stiwardiaid, yn gynulleidfa a llawer mwy.
- Y Cyfeillion yw'n seinfwrdd ar gyfer ein gwaith ac mae'r gymdeithas hefyd yn ein galluogi i ymgeisio am gefnogaeth ariannol i amrywiol brosiectau.
- Mae angen cynyddu niferoedd ac amlygrwydd y gymdeithas, felly trwy brynu pecyn aelodaeth, dyma gyfle perffaith i fedru gwneud hynny.
Manteision o fod yn Gyfaill:
- Gwybod eich bod chi'n rhan o dîm sy'n gweithio tuag at ddathlu a hyrwyddo'r iaith a'r diwylliant Cymreig a dwyieithrwydd.
- Gostyngiad oddi ar brisiau tocynnau
- Nosweithiau Egscliwsif yn ystod y flwyddyn
- Cerdyn Teyrngarwch
- Newyddlen Chwarterol i aelodau yn unig
- Archebu Cynnar
- Cyngerdd Cyfeillion
- Nwyddau Croeso
Elusen gofrestredig yw Cyfeillion Theatr Felinfach.
Cadeirydd: Linda Carlisle
I ymuno â chynllun Cyfeillion Theatr Felinfach:
Cliciwch ar y linc isod a llawrlwythwch y ffurflen a’i llenwi. Dychwelwch y ffurflen i Theatr Felinfach gyda siec am yr aelodaeth priodol.
Ffurflen Ymaelodi - PDF
neu am ffurflen ymaelodi cysylltwch â Theatr Felinfach – 01570 470697 / Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.