01570 470697

Mae Adran Wisgoedd Theatr Felinfach wedi ei lleoli tu cefn i’r theatr ac mae ar agor i’r cyhoedd yn ogystal ag i ysgolion a mudiadau i hurio gwisgoedd ar gyfer unrhyw achlysur.
Ceir ystod eang o wisgoedd anifeiliaid (yn cynnwys dreigiau) i’w hurio yn ogystal â nifer o eitemau Gwisg Ffansi i chi archwilio. Mae’r adran hefyd yn derbyn comisiynau am brisiau rhesymol ar gyfer y wisg unigryw yna na ffeindiwch chi ar y stryd fawr. Arbenigir mewn gwisgoedd oes Fictoria ond mae unrhyw beth yn bosib.
Mae croeso cynnes i bawb, felly galwch mewn i bori drwy’r gwisgoedd.
Os na fedrwch ffeindio yr hyn sydd ei angen, os oes angen cyngor arnoch ar wisg hanesyddol neu syniadau ar gyfer parti, rydym yma i helpu.


Cysylltwch ag Annelise ar:- 01545 572365

e-bost - Mae'r e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Oriau Agor:-

 

Llun  9yb – 3yp 
Mawrth 1.30yp – 3yp
Mercher  9yb – 3yp
Iau 9yb – 3yp
Gwener 9yb – 3yp

Ar gau yn ystod gwyliau ysgol.