Prisiau Sioeau i Deuluoedd
Mae Theatr Felinfach yn cynnig Tocyn Teulu lle bo hynny’n bosibl i deuluoedd. Mae hyn yn amrywio o sioe i sioe.
Holwch yn y Swyddfa Docynnau am fwy o fanylion.
Oes angen tocyn ar fy mhlentyn i?
Oherwydd rheolau iechyd a diogelwch, rheolau tân, a’r angen i’n staff wybod yn union faint o bobl sydd yn yr adeilad, mae’n ofynnol i bob person sy’n medru eistedd heb gymorth h.y. nad sy'n faban i gael sedd. Mae hefyd angen ystyried fod pawb yn medru gweld tu hwnt i’r person sy’n eistedd y tu blaen iddynt.
Mae seddi codi ar gael i blant. Holwch stiward neu aelod o staff amdanynt ac fe gewch ddefnyddio un heb unrhyw gost ychwanegol.
Toiledau/cyfleusterau newid babanod
Mae cyfleusterau i newid babanod ar gael yn rhan o’r toiled ar gyfer pobl llai abl.