Cyrraedd y Lleoliad
Mae Theatr Felinfach ar gampws Felinfach mewn lle canolog a hawdd ei gyrraedd yn Nyffryn Aeron yng nghanol Ceredigion, ar y brif ffordd (A482) rhwng tref farchnad Llanbedr Pont Steffan a thref arfordirol Aberaeron.

Theatr Felinfach, Dyffryn Aeron, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion SA48 8AF
Parcio
Ceir digon o le parcio ar y campws yn rhad ac am ddim. Mae’r cyfan yn cael ei reoli’n gelfydd gan ein Gofalwr pan fydd digwyddiadau ar y safle.
Parcio i ddeiliaid bathodyn glas
Mae nifer o ofodau parcio ar gael i ddeiliaid bathodyn glas o flaen yr adeilad.