Little Mill yn cyflwyno Rapunzel gan Ben Crocker. Wedi ei chipio yn fabi allan o ddwylo’r Frenhines o Evergreen gan Gothel y wrach anfad, mae Rapunzel yn cael ei chloi i ffwrdd mewn twr. Ymlaen undeg wyth mlynedd mae dyn ifanc Golygus, Rudi O’Malley ar gwest i ffeindio’r Dywysoges Rapunzel ac yn darganfod tŵr ar ôl gweld Gothel yn dringo lawr gwallt hir Rapunzel ac yn dringo fyny ei hun. A fydd modd achub Rapunzel a’i ddychwelyd i Evergreen?
Dewch i ffeindio mas mewn sioe hwyliog llawn ramant ac antur o’r dechrau i’r diwedd.
Pris - £9 | £8 | £6
Tocynnau
Nôl