Jemima
Cwmni Theatr Arad Goch
26-27|6|2023

Mae Cwmni Theatr Arad Goch yn adnabyddus am ddramâu i blant; dyma gynhyrchiad cyffrous, newydd am un o fenywod pwysicaf yn hanes Cymru – Jemima Nicholas. Hanes, cerddoriaeth, ychydig o ddireidi, a lot o hwyl wrth i ni roi sylw i’r arwes Gymreig o Sir Benfro.

Crydd 47 oed o Abergwaun, Sir Benfro, oedd Jemima pan drechodd ddwsin o filwyr Ffrainc yn ystod Brwydr Abergwaun ym 1797, a’u gorfodi i ildio eu harfau gyda dim ond ei phicfforch.

Canllaw oed: 7+

Nôl

Hawlfraint 2022 Theatr Felinfach